#

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-715

Teitl y ddeiseb: Gwahardd cynhyrchu, gwerthu a defnyddio maglau yng Nghymru

Testun y ddeiseb: Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i wahardd cynhyrchu, gwerthu a defnyddio maglau yng Nghymru.

Dolenni o wifrau tenau yw maglau, ac maent wedi'u dylunio i drapio rhywogaethau 'ysglyfaethwyr'. Er yr honnir iddynt gael eu defnyddio fel dyfeisiau ffrwyno, mae eu dyluniad yn golygu eu bod yn achosi anafiadau difrifol i'r anifeiliaid y maent yn eu dal. Mae’r anafiadau hyn yn cynnwys colli aelodau o’r corff, tagu ac, yn aml, marwolaeth.

Yn ôl DEFRA, nid yw hyd at ddwy ran o dair o’r anifeiliaid sy’n cael eu dal yn y maglau hyn hyd yn oed ymhlith y rhywogaethau sy’n cael eu targedu. Gan amlaf, caiff maglau eu gosod i ddal llwynogod. Fodd bynnag, mewn gwirionedd, maent yn dal moch daear, ceirw ac anifeiliaid anwes. Yng Nghymru, caiff tua 370,000 o anifeiliaid eu dal mewn maglau bob blwyddyn. Mae hynny'n fwy na 1,000 y dydd.

Yn 2015, cyflwynodd Llywodraeth Cymru God Ymarfer Gorau ar ddefnyddio maglau. Fodd bynnag, Cod gwirfoddol yw hwn ac nid oes unrhyw gamau gwirio ar waith na chosbau i'r rhai nad ydynt yn cydymffurfio. Mae hyd yn oed magl sy’n cydymffurfio â’r Cod yn ddyfais ansoffistigedig nad yw’n gwahaniaethu rhwng rhywogaethau ac sy’n fwy tebygol o achosi anaf neu farwolaeth i anifail na’i ffrwyno.

Mae gan y Cynulliad y pŵer i roi terfyn ar yr arfer hwn, ac arwain y ffordd o ran lles anifeiliaid yn y DU, drwy wahardd cynhyrchu, gwerthu a defnyddio maglau yng Nghymru.

 

 

Cefndir

Caiff maglau eu defnyddio gan amlaf i reoli llwynogod a chwningod ond gellir eu gosod hefyd at amrywiaeth o ddibenion eraill gan gynnwys, er enghraifft, dal cwningod ar gyfer bwyd a dal llwynogod ar gyfer rhaglenni ymchwil. Mae'r rhywogaethau targed eraill y gellir eu dal yn gyfreithlon yn cynnwys llygod mawr, gwiwerod llwyd a mincod. 

Ceir dau fath o fagl anifeiliaid: magl ddirwyn a magl gloi. Y bwriad yw bod magl ddirwyn yn llacio pan fydd anifail yn stopio tynnu, a'r bwriad yw bod magl gloi yn parhau i dynhau. Mae maglau dirwyn yn gyfreithlon ledled y DU, ond ceir gwaharddiad ar faglau cloi am resymau rheoli bywyd gwyllt.

Yn 2012, cyhoeddodd Adran Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig y DU (Defra) adroddiad o dan y teitl 'The extent and humaneness of snares in England and Wales'. Yn y cyfnod ymchwil dan sylw (2008-2012), defnyddiwyd rhwng 17,200 a 51,600 o faglau ar unrhyw adeg yng Nghymru. O'r 1.7 miliwn o anifeiliaid a gafodd eu dal yn y DU bob blwyddyn, roedd 73% yn rhywogaethau nad ydynt yn cael eu targedu. Mae hyn yn codi i 81% yn achos maglau llwynogod yn benodol. Mae'r rhywogaethau nad ydynt yn cael eu targedu yn cynnwys moch daear, ysgyfarnogod, ffesantod, ceirw, cathod a chŵn. O blith y rhywogaethau nad ydynt yn darged, moch daear a gafodd eu dal yn fwyaf aml a chawsant eu dal ym mhob un o'r treialon maglau llwynogod. O'r 17 o ddefnyddwyr maglau cwningod a gafodd eu cynnwys yn yr astudiaeth, roedd pump ohonynt wedi dal cath ddof o leiaf unwaith. Lluniodd Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin becyn ar gyfer dadl Senedd y DU ynghylch gwaharddiad ar weithgynhyrchu, gwerthu, meddiannu a defnyddio maglau ym mis Gorffennaf. Gallai’r Aelodau ddarllen y pecyn i gael gwybodaeth bellach.

Y ddeddfwriaeth gyfredol

Ar hyn o bryd, mae'r ddeddfwriaeth ynghylch maglau i'w gweld yn Adran 11 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, Deddf Ceirw 1991 a Deddf Lles Anifeiliaid 2006.

O dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, ar hyn o bryd mae'n drosedd i:

§    osod magl gloi mewn ffordd y bwriadwyd iddo achosi anaf corfforol i unrhyw anifail gwyllt (a 11(1)(a));

§    lladd neu gymryd unrhyw anifail gwyllt gan ddefnyddio magl gloi (a 11(1)(b));

§    gosod magl (neu declyn arall) mewn modd y bwriadwyd iddo achosi anaf corfforol i unrhyw anifail a restrir yn Atodlen 6 y Ddeddf, er enghraifft moch daear (a 11(2)(a));

§    lladd neu gymryd unrhyw anifail a restrir yn Atodlen 6 o'r Ddeddf gan ddefnyddio magl (a 11(2)(b));

§    gosod magl ac yna methu ag archwilio'r fagl honno (neu sicrhau bod rhywun arall yn ei harchwilio) o leiaf unwaith bob dydd (a 11(3)(b));

§    gosod unrhyw fath o fagl oni bai eu bod yn 'berson awdurdodedig' o dan y Ddeddf (hynny yw, perchennog neu feddiannydd y tir lle y gosodir y fagl, unrhyw berson a awdurdodir gan berchennog neu feddiannydd y tir, neu berson a awdurdodir yn ysgrifenedig gan yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal (a 27(1));

§    meddu ar fagl at ddibenion cyflawni unrhyw un o'r tramgwyddau uchod (adran 18(2)).

Mae adran 11 (4) yn rhoi rhai pwerau cyfyngedig i Weinidogion Cymru ddiwygio'r modd y caiff eu defnydd ei reoleiddio ond dim ond at y diben o gydymffurfio â rhwymedigaeth ryngwladol. Byddai angen newidiadau i gyfraith sylfaenol er mwyn gwneud unrhyw ddiwygiadau eraill.

Mae Deddf Ceirw 1991yn ei gwneud yn dramgwydd i osod unrhyw fagl mewn ffordd y bwriadwyd iddo achosi anaf corfforol i unrhyw geirw a fydd yn dod i gysylltiad â hi, neu ddefnyddio unrhyw fagl er mwyn lladd neu ddal unrhyw geirw.

O dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006, mae unigolyn yn gyfrifol am gymryd camau rhesymol i sicrhau bod anghenion lles pob anifail o dan ei reolaeth, gan gynnwys y rhai sy'n cael eu dal mewn maglau, yn cael eu diwallu. Mae hyn yn cynnwys amddiffyn yr anifail rhag poen a dioddefaint.

 

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Ar 25 Medi 2015, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru God Ymarfer newydd ar ddefnyddio maglau er mwyn rheoli llwynogod i'r rheini sy'n defnyddio maglau yng nghefn gwlad ar hyn o bryd. Mae'r Cod yn crynhoi'r rhwymedigaethau cyfreithiol cyfredol ar y rheini sy'n defnyddio maglau ac yn amlinellu'r canllawiau arfer gorau y dylid eu dilyn. Yn ei phapur i’r Pwyllgor, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ei bod yn bwriadu cwrdd â phartïon sydd â diddordeb i drafod y Cod Ymarfer sydd bellach yn flwydd oed.  Nod y cyfarfod yw casglu gwybodaeth am y safonau o ran defnyddio maglau ers cyhoeddi’r Cod, a chlustnodi unrhyw gamau pellach y gellir eu cymryd i gydymffurfio’n agosach â’r Cod a gwella safonau iechyd anifeiliaid fwy fyth.  Barn Ysgrifennydd y Cabinet yw bod y Cod Ymarfer yn darparu canllawiau clir ar hyn o bryd ar ddefnyddio maglau a’u harchwilio.

Mae Llywodraeth yr Alban wedi tynhau'r drefn o reoleiddio maglau cyfreithlon, gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol i bob unigolyn sy'n gosod maglau dderbyn hyfforddiant, bod tagiau'n cael eu rhoi ar faglau sy'n cael eu gosod a bod modd olrhain maglau i unigolyn.

 

Adolygiad Comisiwn y Gyfraith o Ddeddfwriaeth Diogelu Bywyd Gwyllt

Yn 2011, gofynnodd Defra, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, i Gomisiwn y Gyfraith adolygu'r ddeddfwriaeth gyfredol ar gyfer diogelu bywyd gwyllt ac ystyried a oedd yn addas at y diben.

Ar 10 Tachwedd 2015, cyhoeddodd Comisiwn y Gyfraith ar gyfer Cymru a Lloegr ei gasgliadau ynghylch ei adolygiad o'r gyfraith diogelu bywyd gwyllt. Yn ei adroddiad terfynol, daeth Comisiwn y Gyfraith i'r casgliad bod y gyfraith bresennol ar warchod bywyd gwyllt yng Nghymru a Lloegr yn gymhleth, yn rhy ddryslyd ac weithiau'n anghyson. Mae felly wedi argymell y dylid cyflwyno Bil Bywyd Gwyllt newydd i ddisodli’r holl ddarnau o ddeddfwriaeth yn y maes hwn.

Mae Comisiwn y Gyfraith yn awgrymu y gellid cyflwyno’r Bil hwn fel Bil Cymru a Lloegr a gosod Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol gerbron y Cynulliad, neu y gallai’r ddau sefydliad gyflwyno’r un darn o ddeddfwriaeth ar wahân, un i Gymru ac un i Loegr.

Mewn perthynas â maglau, daeth Comisiwn y Gyfraith i'r casgliad y dylai'r gwaharddiad (Adroddiad Terfynol Cyfrol 1 paragraffau 5.147-5.149) ar ddefnyddio maglau cloi barhau. Mewn perthynas â maglau ac eithrio maglau cloi, daeth i'r casgliad y dylai maglau o'r fath gael eu rheoleiddio'n llymach. Fodd bynnag, nid amlinellodd farn ar eu gwahardd.

Nododd Llywodraeth flaenorol Cymru ei bod yn ystyried cynnwys adroddiad Comisiwn y Gyfraith a'i argymhellion, ond ni ddywedodd a fyddai Bil Bywyd Gwyllt newydd yn cael ei ddatblygu yng Nghymru.

 

Camau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae iechyd a lles anifeiliaid yn bwnc datganoledig y mae gan y Cynulliad gymhwysedd yn ei gylch. Mewn theori, gellid datblygu deddfwriaeth sylfaenol i reoleiddio neu wahardd y defnydd o faglau, ar yr amod ei bod yn bodloni'r holl brofion cymhwysedd eraill. Gellid dweud bod deddfwriaeth sy'n cynnig gwahardd/rheoleiddio'r broses o weithgynhyrchu neu werthu maglau o'r fath hefyd yn ymwneud â lles anifeiliaid. Byddai angen rhoi ystyriaeth fwy manwl i gynnig penodol i wahardd pob magl cyn y byddai modd cadarnhau bod hyn o fewn cymhwysedd y Cynulliad. Mae posibilrwydd y gallai unrhyw ddeddfwriaeth arfaethedig i wahardd neu reoleiddio'r broses o weithgynhyrchu neu werthu maglau yng Nghymru effeithio ar reoleiddio'r fasnach ryngwladol. Fodd bynnag, byddai’n dibynnu'n fawr ar fanylion y cynigion.

Ar 22 Mehefin 2016, gofynnodd Julie Morgan AC i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:

A wnaiff y Gweinidog gadarnhau nad oes rhwystrau statudol yn atal cyflwyno deddfwriaeth Gymreig i wahardd defnyddio maglau yng Nghymru?

Ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet:

Os bydd newidiadau'n cael eu cynnig ynghylch defnyddio maglau yng Nghymru, efallai y byddai angen cyflwyno deddfwriaeth sylfaenol Gymreig. (cyfieithiad o’r ateb gwreiddiol)

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.